SAES | CYM

Mae enw’r cwmni yn tarddu o’r gair Groeg Phyto-, sy’n golygu ‘planhigion’, a’r terfyniad Lladin -ation, sy’n golygu gweithred neu broses, a dyna, yn y bôn, yr ydym yn ei wneud! Mae’r enw’n adlewyrchu ymrwymiad y cwmni i gyfuno’r defnydd o ddeunyddiau naturiol o blanhigion â dull blaengar, arloesol o weithio sy’n defnyddio’r prosesau a’r technegau diweddaraf.

Ffurfiwyd y cwmni gan grŵp o fuddsoddwyr a chanddynt gyfoeth o brofiad yn y diwydiant fferyllol, a sylwodd fod galw am ffyrdd newydd, uchel eu hansawdd o gynhyrchu echdynion o blanhigion gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf.

Symudodd y cwmni i’w gyfleuster cynhyrchu newydd yng Nghaernarfon ym mis Hydref 2006.  Gyda golygfeydd dros Fôr Iwerddon, Pen Llŷn a draw am fynyddoedd Eryri, mae’r adeilad mewn lleoliad perffaith ar gyfer denu gweithwyr o’r safon uchaf sydd yn chwilio am well ansawdd bywyd, ond mae hefyd yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth gwych yr A55 a rheilffordd Glannau Gogledd Cymru. Mae’r dechnoleg felino ddiweddaraf i’w gweld yn yr uned, yn ogystal â labordy ac ynddo offer cynhwysfawr sy’n defnyddio HPLC a thechnegau eraill er mwyn cyrraedd a chynnal safonau ansawdd manwl.

Mae’r cwmni’n ymroddedig i gynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel, â phob un ohonynt yn cwrdd â’r safonau perthnasol, ac i roi'r gweithwyr, y systemau a’r ethos gorau ar waith i sicrhau bod pob cwsmer yn cael y gwasanaeth gorau posibl.  Yn ogystal â hyn, mae’r cwmni wedi mabwysiadu Polisi Amgylcheddol cyfoes i leihau'r defnydd o ynni, lleihau cymaint â phosibl ar wastraff a chynyddu ailgylchu, gan gael gwared â sgil-gynhyrchion mewn modd cyfrifol, ac i leihau cymaint â phosibl ar yr effaith a gaiff gweithrediadau’r cwmni ar yr amgylchedd.