SAES | CYM

Rydym yn ymfalchïo mewn sicrhau bod ein holl gynhyrchion yn cael eu gweithgynhyrchu i’r safonau ansawdd uchaf un ac mae gan y cwmni system ansawdd gynhwysfawr er mwyn sicrhau hyn. Mae Phytovation yn gweithredu system ansawdd gaeth ac yn ceisio gweithio i’r safonau moesegol a phroffesiynol uchaf. Mae ganddo nifer o ardystiadau i brofi hyn. Mae ein hardystiadau presennol i’w gweld isod, ond os oes arnoch angen ardystiad penodol nad ydyw i’w weld isod siaradwch â ni oherwydd mae’n bosibl ein bod eisoes wrthi yn ei sicrhau.

Arferion Gweithgynhyrchu Da (GMP)

Mae’r cwmni’n gweithredu yn unol â’r canllawiau ar Arferion Gweithgynhyrchu Da a chaiff ei arolygu a’i ardystio gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).

Mae system ansawdd y cwmni yn cydymffurfio â gofynion ISO 9001:2015 a chaiff ei arolygu gan SGS i gadarnhau ein bod yn cadw at y safon.