Phytovation
Mae Phytovation yn gyflenwr Cynhwysyn Fferyllol Actif (API) sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon yng ngogledd-orllewin Cymru, ac mae’n arbenigo mewn cynhyrchu senna safonedig i’w ddefnyddio fel carthydd.
Mae deunydd a gynhyrchir gan y cwmni yn cael ei ddefnyddio mewn cynnyrch a gyflenwir ledled y byd, felly gallwch ymweld â fferyllfa yn Sanclêr, Singapore neu Sydney a disgwyl darganfod cynnyrch a wnaed o senna safonedig wedi’i gynhyrchu gan Phytovation.
Gan ddefnyddio’r peiriannau a’r cyfarpar diweddaraf, ac offer labordy a dadansoddi arloesol, ynghyd â gweithlu o staff hyfforddedig ac ymroddedig a recriwtiwyd yn lleol, ein nod yw creu cynnyrch o’r ansawdd uchaf a chynnig gwasanaeth eithriadol i gwsmeriaid.
Ar dudalennau ein gwefan cewch ddarllen mwy am y cwmni, ei gynnyrch a’i bobl, a sut y gallwn weithio gyda chi er mwyn elwa ar fuddiannau senna safonedig Phytovation. Mae croeso ichi gysylltu â ni i drafod eich gofynion – edrychwn ymlaen at glywed gennych.

