SAES | CYM

Rydym wedi ymrwymo i greu cynnyrch o’r ansawdd uchaf gan ddefnyddio’r deunyddiau crai gorau sydd ar gael, ynghyd â’r dechnoleg ddiweddaraf, a thrwy gyflogi staff o’r radd flaenaf.

Ar hyn o bryd, ein prif gynnyrch yw powdr senna naturiol safonedig i’w ddefnyddio i wneud carthyddion o ansawdd uchel. Gan weithio’n agos â chwmni fferyllol mawr amlwladol sy’n arwain ar lefel fyd-eang o safbwynt cynnyrch o’r fath, mae ein peiriannau wedi cael eu datblygu er mwyn sicrhau’r allbwn a’r ansawdd uchaf, ond gan gadw, ar yr un pryd, yr hyblygrwydd i ymdopi â nodweddion amrywiol cynnyrch naturiol. Mae’r codennau senna amrwd, a ddaw o’r cnydau gorau yn y byd, yn cael eu hidlo, eu melino a’u cymysgu i gwrdd â gofynion caeth. Mae dadansoddiad labordy cynhwysfawr o’r deunydd, yn ystod ac ar ôl y broses gynhyrchu, yn sicrhau bod y cynnyrch gorffenedig yn bodloni’r ansawdd uchel y mae’r cwsmer yn galw amdano, a hynny bob amser.

Mae cyfleusterau melino eraill wrthi’n cael eu prynu i ganiatáu cynnal profion cyn-gynhyrchu ar amrywiaeth ehangach o ddeunyddiau naturiol er mwyn asesu’r gofynion ar gyfer gweithgynhyrchu ar raddfa lawn, gan gydweithio’n agos â’n cwsmeriaid er mwyn sicrhau atebion o ansawdd uchel.

Mae ein prif gynhyrchion eraill yn cynnwys amrywiaeth o echdynion ac olewau hylifol naturiol o blanhigion, wedi’u pecynnu’n barod ar gyfer eu defnyddio mewn fferyllfeydd neu ysbytai.

Caiff ein cynhyrchion i gyd eu cynhyrchu i’r safonau priodol, er enghraifft BP a Ph Eur, ac mae’r broses gynhyrchu yn cydymffurfio â safonau Arferion Gweithgynhyrchu Da (GMP).